HSC(4)-12-12 papur 3
At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan: Gwasanaeth y Pwyllgorau
Dyddiad y cyfarfod: 26 Ebrill
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.
2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd hyd at doriad hanner tymor Y Sulgwyn 2012.
3. Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.
4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.
5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.
DYDD IAU 26 EBRILL 2012
Prynhawn yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn dystiolaeth lafar
Ymchwiliad un-dydd ar Wasanaethau cadair olwyn yng Nghymru
Ystyried y materion allweddol (preifat)
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru
Ystyried yr adroddiad ddrafft (preifat)
DYDD MERCHER 2 MAI 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn dystiolaeth lafar
Papur Gwyn ar Roi Organau
Sesiwn dilynol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
DYDD IAU 10 MAI 2012
Bore a phrynhawn
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Gweithgareddau ymgysylltu allanol
DYDD MERCHER 16 MAI 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn dystiolaeth lafar
Papur Gwyn ar Wasanaethau Cymdeithasol
Sesiwn friffiol ar y materion technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
DYDD IAU 24 MAI 2012
Bore a phrynhawn
Ymchwiliad un-dydd ar atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru
Sesiwn dystiolaeth lafar
DYDD MERCHER 30 MAI 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn dystiolaeth lafar
Dydd Llun 4 Mehefin 2012 – Dydd Sul 10 Mehefin 2012: Toriad hanner tymor y Sulgwyn